Y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 21 Medi 2011 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:15 - 12:00 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Christine Chapman (Cadeirydd) Angela Burns Jocelyn Davies Keith Davies Suzy Davies Julie Morgan Lynne Neagle Jenny Rathbone Aled Roberts Simon Thomas |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Dr Sue Greening, Cadeirydd, British Dental Association Welsh Council Stuart Geddes, Cyfarwyddwr, British Dental Association Welsh Council Karen Jones, Flying Start Manager, North Wales Fran Dale, Flying Start Manager, East Wales Nia McIntosh, Flying Start Manager, West Wales Chris Koukos, Flying Start Manager, South Wales |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Claire Morris (Clerc) Meriel Singleton (Dirprwy Glerc) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, Ymddiheuriadau a Dirprwyon
1.1 Ni chafwyd ymddiheuriadau. Croesawodd y Cadeirydd Aled Roberts i’w gyfarfod swyddogol cyntaf o’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc.
2. Ymchwiliad i Iechyd y Geg mewn Plant yng Nghymru: Sesiwn Dystiolaeth ( 9:20 -10:00)
2.1 Croesawodd y Cadeirydd Dr Sue Greening a Stuart Geddes i’r cyfarfod. Holwyd y tystion gan Aelodau.
2.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y tystion er mwyn gofyn y cwestiynau nas cyrhaeddwyd yn ystod y cyfarfod.
3. Rhwydwaith Dechrau'n Deg - Trafod y Prif Faterion (10:00 - 11:15)
3.1 Croesawodd y Cadeirydd y tystion i’r cyfarfod. Holwyd y tystion gan Aelodau.
3.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Blant yng Nghymru ynghylch y mater yn ymwneud â’r gofrestr amddiffyn plant a godwyd ym mhapur y sefydliad.
3.3 Cytunodd cydgysylltwyr Dechrau’n Deg i ddarparu nodyn i’r Pwyllgor ar yr elfennau y gellid eu cynnwys wrth greu fersiwn lai o Dechrau’n Deg.
3.4 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y tystion er mwyn gofyn y cwestiynau nas cyrhaeddwyd yn ystod y cyfarfod.
4. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
4.1 Cynigiodd y Cadeirydd gynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod er mwyn trafod materion yn ymwneud â threfniadau mewnol y Pwyllgor.
4.2 Derbyniwyd y cynnig gan y Pwyllgor.
5. Trafod y Flaenraglen Waith (11:15 - 12:00)
5.1 Trafododd y Pwyllgor bynciau posibl ar gyfer ei waith yn y dyfodol.
6. Papurau i'w nodi
6.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.